Croeso i
Ysgol Uwchradd Aberteifi
Croeso gan y Pennaeth
Mae’n fraint gen i eich croesawu i wefan Ysgol Uwchradd Aberteifi. Wrth imi ddechrau yn fy rôl newydd fel Pennaeth, hoffwn rannu fy ngweledigaeth ar gyfer yr ysgol – mewn modd syml iawn: gweledigaeth ni fel ysgol a chymuned, nid gweledigaeth un unigolyn.
Rwy’n edrych ymlaen at wrando ar leisiau ein cymuned – staff, disgyblion, llywodraethwyr, rhieni a gwarcheidwaid – ac at ymgysylltu â’r gymuned ehangach er mwyn deall beth sydd orau i ni yma yn Aberteifi.
Mae fy ngwerthoedd fel Pennaeth yn glir: adeiladu cymuned sy’n seiliedig ar barch, cwrteisi, dyheadau a disgwyliadau uchel. Fy mwriad yw cefnogi’r ysgol gyfan i symud ymlaen, adeiladu ar yr arferion rhagorol sydd eisoes yma, a chreu cyfleoedd cyffrous ar gyfer y dyfodol.
Dylai lles a goddefgarwch fod wrth wraidd ein gwerthoedd fel cymdeithas, ac mae’n hanfodol ein bod yn meithrin y rhain yma yn yr ysgol. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae pob unigolyn yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei gefnogi ac yn cael ei barchu – man lle mae lle i bawb, a lle mae pob un yn gwybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys ac yn bwysig.
Mae’n bwysig i bawb wybod ein bod yma i helpu pob unigolyn i wneud cynnydd – cynnydd sy’n weladwy ac yn amrywiol ei ffurf. Mae’n galonogol gweld cymaint yn dychwelyd i’r chweched dosbarth bob blwyddyn, a bydd un o’n nodau yn y blynyddoedd nesaf yw ehangu’r ystod o bynciau academaidd, galwedigaethol ac ymarferol a gynigir, i ddenu mwy o ddisgyblion a chwrdd ag anghenion ein cymuned leol.
Yn Ysgol Uwchradd Aberteifi rydym yn falch o gynnig amrywiaeth gyfoethog o gyfleoedd i’n disgyblion sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. O raglen fywiog o chwaraeon, drama a cherddoriaeth i ddewis eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol, gall pob dysgwr ddarganfod a datblygu eu doniau unigol. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n hysgolion cyfagos a cholegau lleol i ehangu’r cyfleoedd sydd ar gael, gan sicrhau bod ein disgyblion yn cael mynediad at gwricwlwm ysbrydoledig ac amrywiol. Mae hyn oll yn digwydd mewn ysgol sydd wedi elwa ar fuddsoddi sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n golygu ein bod yn gallu cynnig y cyfleusterau gorau – a’r profiadau gorau – i bob disgybl sy’n dysgu gyda ni.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’n hardal yn 2026 – digwyddiad fydd yn dod â llygaid Cymru gyfan (a degau o filoedd o ymwelwyr) i dref wreiddiol yr Eisteddfod. Mae balchder yn ein hunaniaeth a’n diwylliant Cymreig yn hollbwysig, ac yma yn Ysgol Uwchradd Aberteifi rydym am feithrin y balchder hwnnw, ochr yn ochr â hybu goddefgarwch a diddordeb yn y byd ehangach a’r cyfleoedd di-ben-draw sydd ar gael y tu hwnt i Aberteifi a Chymru.
Mae pob plentyn yn bwysig; mae pob aelod o staff yn bwysig. Ein nod yw paratoi ein pobl ifanc ar gyfer y byd ar ôl eu cyfnod yn yr ysgol – a dyna’r fraint fwyaf i mi, i allu gwneud hynny yma yn y dref yr wyf innau’n falch o’i galw’n “adra”.
Gyda diolch,

Trystan Phillips (Pennaeth)
Cysylltwch â ni
Ysgol Uwchradd Aberteifi, Park Place, Cardigan, SA43 1AD.
Ffon: (01239) 612670