Gwisg Ysgol
Blynyddoedd 7 - 11
Rhaid i bob disgybl wisgo’r wisg ysgol gywir bob dydd achos rydyn ni’n credu bod hyn yn meithrin teimlad o berthyn i gymuned yr ysgol. Rydyn ni’n disgwyl safon uchel o ran ymddangosiad personol a bydd unrhyw ddisgybl sydd ddim yn gwisgo’r wisg gywir yn cael benthyg yr eitem hwnnw neu’n mynd i Encil am y dydd neu’n cael ei anfon adref i newid. Rhaid i liw a steil gwallt fod yn briodol i’r ysgol. Chewch chi ddim gwisgo colur. Rhaid i bob disgybl fod yn lân ac yn daclus.
Mae gan bob disgybl yr hawl i wisgo un pâr glustdlysau styd, ond ni chaniateir tlysau eraill yn y gwyneb. Os byddwch yn gwisgo gemwaith anaddas, bydd yr ysgol yn disgwyl i chi dynnu nhw bant a bydd yr ysgol yn cadw’r eitem tan ddiwedd y diwrnod ysgol.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, gofynnir i ddisgyblion gwisgo ein gwisg ysgol fel a ganlyn:
- Sgert ddu hyd at y gliniau neu trowsus du clasurol
- Siwmper neu cardigan ysgol glas tywyll
- Crys gwyn
- Tei ysgol
- Bleser ysgol glas tywyll
- Esgidiau du
- Gellir gwisgo siwmper ysgol o dan y blaser ysgol
Pasg – Gorffennaf:
- Crys Polo ysgol gwyn neu crys gwyn gyda llewys byr a thei
- Siorts du clasurol hyd at y pengliniau
Blynyddoedd 7 - 11 Addysg Gorfforol
- Skort, “leggings”, “joggers” neu siorts ymarfer corff yr ysgol
- Crys ymarfer corff neu crys rygbi yr ysgol Fflîs ymarfer corff yr ysgol
- Sanau ymarfer corff yr ysgol
- Esgidiau 3G i’w defnyddio ar y cae 3G
Blynyddoedd 12 - 13
Rhaid i bob disgybl wisgo’r wisg ysgol gywir bob dydd achos rydyn ni’n credu bod hyn yn meithrin teimlad o berthyn i gymuned yr ysgol. Rydyn ni’n disgwyl safon uchel o ran ymddangosiad personol a bydd unrhyw ddisgybl sydd ddim yn gwisgo’r wisg gywir yn cael benthyg yr eitem hwnnw neu’n mynd i Encil am y dydd neu’n cael ei anfon adref i newid. Rhaid i liw a steil gwallt fod yn briodol i’r ysgol. Chewch chi ddim gwisgo colur. Rhaid i bob disgybl fod yn lân ac yn daclus.
Mae gan bob disgybl yr hawl i wisgo un pâr glustdlysau styd, ond ni chaniateir tlysau eraill yn y gwyneb. Os byddwch yn gwisgo gemwaith anaddas, bydd yr ysgol yn disgwyl i chi dynnu nhw bant a bydd yr ysgol yn cadw’r eitem tan ddiwedd y diwrnod ysgol.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, gofynnir i ddisgyblion gwisgo ein gwisg ysgol fel a ganlyn:
- Sgert ddu hyd at y gliniau neu trowsus du clasurol
- Siwmper neu cardigan ysgol glas tywyll
- Crys gwyn
- Tei ysgol
- Bleser ysgol glas tywyll
- Esgidiau du
Pasg – Gorffennaf:
- Crys Polo ysgol gwyn neu crys gwyn gyda llewys byr a thei
- Siorts du clasurol hyd at y pengliniau
Gwisg Ymarfer Corff Blynyddoedd 12 - 13