Archebu Gwisg Ysgol
Croeso i’n ffurflen archebu gwisg ysgol. Llenwch y ffurflen isod gan nodi eich dewis o wisg ysgol sydd ei angen. .
Os yw’r eitem o wisg ar gael yn ein siop wisg, yna bydd eich archeb yn cael ei phrosesu, a chysylltir â chi i gasglu’r eitemau o’r dderbynfa.
Os nad yw’r eitemau mewn stoc, bydd eich archeb yn cael ei chadw nes bod eich eitemau yn y maint a ddymunir ar gael.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael drwy haelioni a chefnogaeth ein rhieni/gofalwyr.
Os hoffech gefnogi’r gwasanaeth hwn, dewch ag unrhyw roddion gwisg i’r dderbynfa iddynt gael eu hailgylchu fel rhan o’n gwasanaeth gwisg a ddarperir i deuluoedd YUA.
Os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r dderbynfa.