Côd Ymddygiad
Mae’r ysgol yn parchu:
- Prydlondeb.
- Gweithio’n galed.
- Ymddygiad da.
- Cynnydd da mewn dysgu.
- Dilyn rheolau ysgol.
- Presenoldeb ardderchog.
Rheolau'r Ysgol
Ar y cyfan, 8 rheol sydd yma:
Gwisg ysgol ac offer cywir.
Rwyt ti’n edrych yn smart, golygu busnes, a pharod am waith.
Parchu pobl eraill a’r ysgol.
Fel bod ti a phawb arall yn gallu bwrw ati i ddysgu. Mae cadw’r ysgol yn daclus yn helpu ni i fod yn falch ohoni.
Ymddwyn mewn ffordd ddiogel o fewn yr ysgol.
Fel bod pawb yn teimlo’n saff – mae’r hawl gyda ti a phawb i deimlo’n ddiogel, a bydd llai o ddamweiniau.
Tynnu cotiau a’u rhoi mewn bagiau / loceri.
Mae’n haws i ni adnabod pobl sydd ddim yn perthyn i’r ysgol a bydd dy got di’n ddiogel.
Ffonau symudol a MP3 mas o’r golwg, a dim i’w clywed.
Achos dydyn nhw DDIM yn helpu ti i ddysgu.
Bod ar gampws yr ysgol drwy’r dydd.
Mewn argyfwng mae’n haws i ni wybod ble mae pawb a’ch cadw chi ’n saff.
Bwyta yn y ffreutur yn unig.
Fel bo’r ysgol yn lân a thaclus.
Dim gwm cnoi.
Mae’n anodd ei lanhau ac yn afiach ac rydyn ni eisiau i dy ysgol DI i fod yn smart.